ccyfeiriad at 1 Samuel 21:1-6
eHosea 6:6 (gw. hefyd Mathew 9:13)
f Eseia 42:1-4 (LXX).
icyfeiriad at Jona 3:5

Matthew 12

Arglwydd y Saboth

(Marc 2:23-28; Luc 6:1-5)

1Bryd hynny aeth Iesu drwy ganol caeau ŷd ar y dydd Saboth. Roedd ei ddisgyblion eisiau bwyd, a dyma nhw'n dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd a'u bwyta.
12:1 tynnu rhai o'r tywysennau ŷd: Roedd gan deithwyr hawl i wneud hyn.
b
2Wrth weld hyn dyma'r Phariseaid yn dweud wrtho, “Edrych! Mae dy ddisgyblion di yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth!”

3Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi ddim wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a'i griw o ddilynwyr yn llwgu? 4Aeth i mewn i dŷ Dduw, a bwyta'r bara oedd wedi ei gysegru a'i osod yn offrwm i Dduw. c Mae'r Gyfraith yn dweud fod ganddo fe a'i ddilynwyr ddim hawl i'w fwyta; dim ond yr offeiriaid oedd â hawl. d 5Neu ydych chi ddim wedi darllen beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud am y Saboth? Mae'r offeiriaid yn torri rheolau'r Saboth trwy weithio yn y deml! Ac eto maen nhw'n cael eu cyfri'n ddieuog. 6Gwrandwch – mae rhywbeth mwy na'r deml yma! 7Petaech chi wedi deall ystyr y gosodiad, ‘Trugaredd dw i eisiau, nid aberthau,’ e fyddech chi ddim yn condemnio'r dieuog. 8Mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy'n iawn ar y Saboth.”

Dyn gyda llaw ddiffrwyth

(Marc 3:1-6; Luc 6:6-11)

9Aeth oddi yno a mynd i'w synagog nhw, 10ac roedd dyn yno oedd â'i law yn ddiffrwyth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i gyhuddo Iesu, felly dyma nhw'n gofyn iddo, “Ydy'r Gyfraith yn dweud ei bod hi'n iawn i iacháu pobl ar y Saboth?”

11Atebodd nhw, “Petai dafad un ohonoch chi'n syrthio i ffos ar y Saboth, fyddech chi ddim yn mynd i'w chodi hi allan? 12Mae person yn llawer mwy gwerthfawr na dafad! Felly, ydy, mae'n iawn yn ôl y Gyfraith i wneud daioni ar y Saboth.”

13Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr, nes ei bod mor gryf â'r llaw arall. 14Ond dyma'r Phariseaid yn mynd allan i drafod sut allen nhw ladd Iesu.

Y gwas a ddewisodd Duw

15Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd, ac aeth i ffwrdd oddi yno. Roedd llawer o bobl yn ei ddilyn, ac iachaodd bob un ohonyn nhw oedd yn glaf, 16ond roedd yn eu rhybuddio i beidio dweud pwy oedd e. 17Dyma sut daeth yr hyn ddwedodd Duw drwy'r proffwyd Eseia yn wir:

18 “Dyma'r un dw i wedi ei ddewis yn was i mi,
yr un dw i'n ei garu, ac mor falch ohono;
Rhof fy Ysbryd Glân iddo,
a bydd yn cyhoeddi cyfiawnder i'r cenhedloedd.
19Fydd e ddim yn cweryla nac yn gweiddi i dynnu sylw ato'i hun,
a fydd neb yn clywed ei lais ar y strydoedd;
20Fydd e ddim yn torri brwynen wan,
nac yn diffodd cannwyll sy'n mygu.
Bydd e'n arwain cyfiawnder i fod yn fuddugol.
21Bydd pobl o'r holl genhedloedd yn rhoi eu gobaith ynddo.” f

Iesu a Beelsebwl

(Marc 3:20-30; Luc 11:14-23; 12:10)

22Dyma nhw'n dod â dyn at Iesu oedd yn ddall ac yn methu siarad am ei fod yng ngafael cythraul. Dyma Iesu'n ei iacháu, ac roedd yn gallu siarad a gweld wedyn. 23Roedd y bobl i gyd yn rhyfeddu, ac yn dweud, “Tybed ai hwn ydy Mab Dafydd?”

24Ond pan glywodd y Phariseaid am y peth, dyma nhw'n dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy'n rhoi'r gallu iddo wneud hyn.”

25Roedd Iesu'n gwybod yn iawn beth oedd yn mynd trwy'u meddyliau, ac meddai wrthyn nhw, “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd dinas neu deulu sy'n ymladd â'i gilydd o hyd yn syrthio hefyd. 26Os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun, a'i deyrnas wedi ei rhannu, sut mae'n bosib i'w deyrnas sefyll? 27Os mai Beelsebwl sy'n rhoi'r gallu i mi, pwy sy'n rhoi'r gallu i'ch dilynwyr chi? Byddan nhw'n eich barnu chi. 28Ond os mai Ysbryd Duw sy'n rhoi'r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu.

29“Neu sut all rhywun fynd i mewn i gartre'r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo'r dyn cryf yn gyntaf? Bydd yn gallu dwyn popeth o'i dŷ wedyn.

30“Os dydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os dydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae'n gweithio yn fy erbyn i. 31Felly gwrandwch – mae maddeuant i'w gael am bob pechod a chabledd, ond does dim maddeuant i'r rhai sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd. 32Bydd rhywun sydd wedi dweud rhywbeth yn fy erbyn i, Mab y Dyn, yn cael maddeuant, ond does dim maddeuant i bwy bynnag sy'n dweud rhywbeth yn erbyn yr Ysbryd Glân, yn yr oes yma nac yn yr oes i ddod.

Coeden a'i ffrwyth

(Luc 6:43-45)

33“Dewiswch y naill neu'r llall – fod y goeden yn iach a'i ffrwyth yn dda, neu fod y goeden yn ddrwg a'i ffrwyth yn ddrwg. Y ffrwyth sy'n dangos sut goeden ydy hi. 34Dych chi fel nythaid o nadroedd! Sut allwch chi sy'n ddrwg ddweud unrhyw beth da? Mae'r hyn mae pobl yn ei ddweud yn dangos beth sy'n eu calonnau nhw. 35Mae pobl dda yn rhannu'r daioni sydd wedi ei storio o'u mewn, a phobl ddrwg yn rhannu'r drygioni sydd wedi ei storio ynddyn nhw. 36Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll wnaethon nhw ei ddweud. 37Cei dy ddyfarnu'n euog neu'n ddieuog ar sail beth ddwedaist ti.”

Arwydd Jona

(Marc 8:11,12; Luc 11:29-32)

38Dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato, a dweud wrtho, “Athro, gad i ni dy weld di'n gwneud rhyw arwydd gwyrthiol.”

39Atebodd nhw, “Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona. 40Fel y daeth Jona allan yn fyw o fol y pysgodyn mawr ar ôl tri diwrnod, felly y bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn fyw o berfedd y ddaear. g 41Bydd pobl Ninefe
12:41 Ninefe: Prifddinas Ymerodraeth Assyria, gelyn Israel yn amser Jona
hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr! i
42A bydd Brenhines Seba
12:42 Seba: De Arabia mae'n debyg.
yn condemnio'r genhedlaeth yma ar ddydd y farn. Roedd hi'n fodlon teithio o ben draw'r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr! k

Ysbryd drwg yn dod yn ôl

(Luc 11:24-26)

43“Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae'n mynd i grwydro lleoedd anial yn chwilio am le i orffwys. Ond pan mae'n methu dod o hyd i rywle, 44mae'n meddwl, ‘Af i yn ôl i lle roeddwn i'n byw.’ Mae'n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ yn wag ac wedi ei lanhau a'i dacluso trwyddo. 45Wedyn mae'n mynd â saith ysbryd gwaeth na'i hun i fyw gydag e. Mae'r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau! Fel yna fydd hi ar y genhedlaeth ddrwg yma.”

Mam a brodyr Iesu

(Marc 3:31-35; Luc 8:19-21)

46Tra oedd Iesu'n dal i siarad â'r bobl, cyrhaeddodd ei fam a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan a gofyn am gael gair gydag e. 47Dwedodd rhywun wrtho, “Mae dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan, eisiau siarad gyda ti.”
12:47 gyda ti: Dydy adn.47 ddim yn rhai llawysgrifau.

48Dyma fe'n ateb, “Pwy ydy fy mam? Pwy ydy fy mrodyr i?” 49A chan bwyntio at ei ddisgyblion, meddai, “Dyma fy mam a'm brodyr i. 50Mae pwy bynnag sy'n gwneud beth mae fy Nhad nefol eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”

Copyright information for CYM